Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

 

 

Carwyn Jones AC

Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

 

 

                                                                  

3 Rhagfyr 2012

 

 

 

 

 

 

 

                                          
Annwyl Brif Weinidog    

 

Cyfarfod Pwyllgor ar 14 Tachwedd 2012

 

Ar ran y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog hoffwn ddiolch i chi a’ch swyddogion am ddod i’n cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar 14 Tachwedd, ac am y drafodaeth gydweithredol ac adeiladol a gawsom yn ein barn ni.

 

Buom yn trafod materion strategol yn helaeth iawn, yn ogystal â phwyntiau mwy penodol, a chytunwyd i ystyried y pwyntiau hyn ymhellach gennych.

 

Mae gennym grynodeb o’r materion hyn isod, a bydd hwn yn gofnod o’r cyfarfod, a hefyd yn fodd i fonitro perfformiad Llywodraeth Cymru dros gyfnod o amser ac i ddilyn cynnydd yn y dyfodol.  Hoffem pe bai modd i chi ymateb i’r pwyntiau a godir gennym. Cyhoeddir ein llythyr ni a’ch ymateb chi ar ein gwefan.                                

 


Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru (2011-16)

 

Cynllunio, cydgysylltu ac amserlennu deddfwriaeth   

 

Rydym yn croesawu’r papur diddorol a didwyll a ddarparwyd gennych ar gyfer ein gwaith o graffu ar eich rhaglen ddeddfwriaethol.

 

Yn benodol roeddem yn croesawu eich sylwadau yn ystod y cyfarfod, ei bod yn “bwysig dros ben bod digon o amser ar gael i graffu ar ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn iawn ac yn gadarn”;[1] a bod Cyfnod 1 yn rhan effeithiol o’r broses graffu.[2]

 

Gwnaethpwyd dau ymrwymiad pwysig yn eich tystiolaeth i ni:

 

  1. I sicrhau bod digon o hyblygrwydd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol i ymdopi â newid ac â syniadau newydd ar gyfer deddfwriaeth a allai ddeillio o’r tu allan i Lywodraeth Cymru;[3] a

 

  1. Bod angen cryfhau gallu a chymhwyster y gwasanaeth sifil yng Nghymru er mwyn gwireddu’r rhaglen ddeddfwriaethol.[4]

 

Yn eich ymateb i’r llythyr hwn, hoffem pe bai modd i chi ymhelaethu ar y ddau bwynt hwn ac awgrymu ffyrdd y byddwch yn disgwyl sicrhau cynnydd yn y maes hwn.

 

Ymgynghoriadau ac ymgysylltu

 

Roedd eich papur tystiolaeth yn cydnabod y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud rhagor “i ymgysylltu â [rhanddeiliaid] yn gynharach.”[5] Trafodwyd y mater hwn yn eithaf manwl gyda chi a chyfeiriwyd at rôl y Papurau Gwyrdd, y Papurau Gwyn a’r Biliau Drafft yn y broses ymgynghori gennych. Roeddem yn croesawu’n arbennig eich sylw mai’r bwriad yw sicrhau bod cymaint o gyfleoedd â phosibl i’r cyhoedd leisio eu barn.[6]

 

 

Byddai’n ddefnyddiol pe bai modd i chi ddarparu rhagor o wybodaeth i ni ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn penderfynu pa ddull ymgynghori i’w ddewis ar gyfer pob cynnig deddfwriaethol (e.e. dogfen ymgynghori, Papur Gwyrdd, Papur Gwyn neu Fil drafft).

 

Trafodwyd sut roedd y Llywodraeth wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gafwyd yn sgîl ei phrosesau ymgynghori; roeddech yn cytuno bod budd mewn gwahaniaethu rhwng safbwynitau unigolion a sefydliadau yng Nghymru a rhai y tu allan i Gymru.[7]

 

Wrth grynhoi ymatebion i ymgynghoriadau ynghylch deddfwriaeth arfaethedig, hoffem pe bai modd i chi ystyried amlygu unrhyw wahaniaethau rhwng safbwyntiau unigolion a sefydliadau yng Nghymru, a barn o’r tu allan i Gymru. Nid yw hynny’n golygu nad oes gwerth ar farn rhai o’r tu allan Gymru, ond byddai’n galluogi’r Llywodraeth i roi mwy o bwyslais ar beth a ddywedir gan y rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn uniongyrchol.

 

Soniwyd gennych hefyd am rôl Asesiadau Effaith Rheoleiddiol wrth helpu i ddarganfod costau cyflwyno deddfwriaeth, ac eich bod yn cynllunio i wneud newidiadau i’r broses bresennol. Croesawn eich datganiadau y bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol mor gadarn â phosibl; nad ystyrir yr asesiad fel rhywbeth ychwanegol nad yw’n orfodol; a bod yn rhaid sicrhau bod cymaint o ffydd yn y system â phosibl.[8]

 

Hoffem pe bai modd i chi egluro sut y gellir sicrhau bod y system Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn fwy tryloyw. Yn benodol, hoffem wybod sut yr ydych yn bwriadu cydweithio â rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod gwell dealltwriaeth wrth gyfrifo costau rhoi deddfwriaeth ar waith; a sut y bydd modd ymchwilio i unrhyw anghysonderau rhwng cyfrifiadau’r Llywodraeth a chyfrifiadau rhanddeiliaid eraill.

 

Trafodaethau â Llywodraeth y DU  

 

Wrth ymateb i gwestiynau gennym, dywedwyd wrthym bod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac adrannau unigol yn Whitehall yn “amrywio llawer” a bod adrannau’r DU sy’n ymdrin â meysydd nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru yn tueddu i fod yn llawer llai effeithiol wrth weithio â Llywodraeth Cymru na’r adrannau sydd wedi arfer ag ymdrin â gweinyddiaethau datganoledig.

 

Gofynnwyd a oedd y profiadau diweddar gyda’r Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a’i gyfeirio at Oruchaf Lys y DU, wedi dwyn amheuaeth ar natur y model pwerau a roddwyd, a nodir yn Atodlen 7 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Roeddech yn cytuno fod y model yn cynnwys gwrthddywediadau, ac nad yw’n gynaliadwy yn yr hirdymor, ac eich bod yn gobeithio y bydd rhan 2 o adroddiad Comisiwn Silk yn edrych arno’n fanylach.

 

Rydym yn croesawu’n benodol eich sylwadau:

 

“It is in the interest not just of Wales and the Welsh Government but also the UK Government to have as much clarity as possible in the devolution settlement. No-one wants to spend time in the Supreme Court and no-one wants to spend time debating what the limits of the settlement are. At the end of the day, clarity means that both administrations are able to carry on in a far more coherent way.”[9]

 

Hoffem pe bai modd i chi amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys yn gynnar unrhyw faterion â Llywodraeth y DU ynghylch cymhwysedd y Cynulliad o ran Biliau, a sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni gwell eglurder yn hyn o beth yn y tymor hwy.

 

Adolygu a chydgrynhoi cyfraith Gymreig

 

Eglurwyd gwaith y Cwnsler Cyffredinol wrthym o ran ystyried sut i gydgrynhoi neu symleiddio cyfraith Gymreig a chreu llyfr statud ar gyfer Cymru. Dywedwyd nad oedd amserlen benodol ar gyfer y gwaith hwn ond eich bod yn disgwyl y bydd yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl.[10]

 

Mae cydgrynhoi a symleiddio cyfraith Cymru yn dasg bwysig. Mae dau o’r Biliau a gyflwynwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru eisoes yn ceisio cydgrynhoi cyfraith bresennol fel y mae’n effeithio ar Gymru. Hoffem weld amserlen benodol, felly, ar gyfer gwaith y Cwnsler Cyffredinol.

 


Materion ar ôl-deddfu, a rhoi deddfau ar waith

 

Treuliwyd peth amser yn trafod y gwaith o graffu ar reoliadau ac is-ddeddfwriaeth. Rydym yn derbyn eich dadl bod angen sicrhau bod digon o hyblygrwydd i ddiwygio rheoliadau’n gyflym pe bai angen. Yr oeddech yn cytuno â ni, fodd bynnag, y byddai’n syniad da pe bai’r Llywodraeth yn ystyried cydredeg rheoliadau a Biliau pan fydd hynny’n bosibl.[11]

 

Hoffem pe bai modd i chi fwrw ymlaen â’r awgrym, bod modd i bwyllgorau graffu ar Filiau ac unrhyw reoliadau sy’n cyd-fynd â hwy ar yr un pryd, pan fydd hynny’n bosibl.


Dull Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo menter          

 

Entrepreneuriaeth yng Nghymru

 

Yn hwylus iawn, ar yr un diwrnod ag yr oeddem yn trafod dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo menter gyda chi, roedd cynhadledd entrepreneuriaeth Cymru yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

 

Crynhowyd y materion yn daclus o ran menter pan ddywedasoch wrthym:

 

“Ni chredaf fod diffyg talent entrepreneuraidd yng Nghymru, ond mae diffyg hyder gan bobl i ddechrau eu busnesau ei hunain.”[12]

 

Roeddech wedi mynegi diddordeb[13] yn y syniad fod ysgolion yn cael eu hannog i greu mentrau cymdeithasol fel ffordd o hyrwyddo diwylliant entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ofyn i’ch Gweinidogion ymateb i’r awgrym hwn.

 

Mentrau cymdeithasol

 

Roedd eich datganiad yn galonogol i ni bod y sector menter cymdeithasol yn hynod o bwysig.[14] Roedd gennym ddiddordeb hefyd yn eich sylw eich bod o’r farn fod i undebau credyd ehangder mawr i dyfu.[15]

 

O gofio eich gweledigaeth ar gyfer posibiliadau undebau credyd i hwyrwyddo cymdeithas fwy cydfuddiannol yng Nghymru yn y dyfodol, byddem yn gwerthfawrogi pe bai modd i chi ddarparu nodyn i ni ar hyn.

 

Roedd gennych ddiddordeb mawr hefyd yn y syniad o barthau menter cymdeithasol,[16] nid parthau daearyddol o anghenraid, ond ar gyfer creu twf mewn sectorau penodol. Er enghraifft, gallai parth menter gofal cymdeithasol geisio goresgyn y rhwystrau sy’n bodoli i fusnesau weithio yn y maes penodol hwnnw.

 

Hoffem pe bai’r dasg o fwrw ymlaen â’r syniad o barthau menter cymdeithasol yn cael ei rhoi i Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru.

 

Creu a chefnogi busnes

 

Trafodwyd gyda chi’n fanwl y rôl y dylai Llywodraeth Cymru ei chael o ran creu’r amodau sy’n galluogi busnesau i fod yn llewyrchus. Fe’n trawyd gan eich sylw:

 

“One area that could be fruitful for us in the future is to help our universities to encourage more spin-off businesses to be created around them. We have seen the model work in the US and we have seen it work in Cambridge. There is no reason why it cannot work for Welsh universities and we are seeing signs of that now.”[17]

 

Eto, dywedasoch hefyd, nad yw ein prifysgolion yn llwyddiannus wrth gynnig am y lefel gywir o arian y dylent ei gael ar gyfer ymchwil, o gofio ein poblogaeth, a rhaid cael newid yn hynny o beth.[18]

 

Roedd eich papur tystiolaeth yn cyfeirio at rôl bwysig strategaeth wyddoniaeth Llywodraeth Cymru o ran ehangu maes gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru. Mae gennym ddiddordeb hefyd yng nghyfraniad maes y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol at ddatblygiad Cymru yn ehangach, a’r cyfleoedd sydd i bobl ifanc hyfforddi yn y disgyblaethau hynny er mwyn dod yn entrepreneuriaid.

 

Dywedwyd[19] y byddech yn barod i ystyried creu strategaeth ymchwil ar gyfer hyrwyddo meysydd ymchwil a gwybodaeth “anwyddonol” sy’n creu swyddi, gyda diwyllant yn un o’r meysydd ymchwil. Byddem yn croesawu clywed mwy o’ch barn ynghylch bwrw ymlaen â’r syniad hwn.

 


I gloi, rydym yn diolch eto am y sesiwn gynhyrchiol iawn a gawsom ar faterion strategol pwysig. Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau a godwyd gennym, a byddwn yn ysgrifennu atoch maes o law ynglŷn â’n cysylltiad nesaf yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Yn gywir

 

 

 

David Melding AC

Cadeiryddy Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog



[1] Cofnod y Trafodion paragraff 12, 14 Tachwedd 2012

[2] Cofnod y Trafodion paragraff 20

[3] Cofnod y Trafodion paragraff 18

[4] Papur tystiolaeth Llywodraeth Cymru, paragraff 6

[5] Papur tysiolaeth,paragraff 10

[6] Cofnod y Trafodion paragraff 46

[7] Cofnod y Trafodion paragraff 44

[8] Cofnod y Trafodion paragraff 52

[9] Cofnod y Trafodion paragraff 80

[10] Cofnod y Trafodion paragraff 96

[11] Cofnod y Trafodion paragraff 90

[12] Cofnod y Trafodion paragraff 111

[13] Cofnod y Trafodion paragraff 120

[14] Cofnod y Trafodion paragraff 143

[15] Cofnod y Trafodion paragraff 147

[16] Cofnod y Trafodion paragraff 153

[17] Cofnod y Trafodion paragraff 163

[18] Cofnod y Trafodion paragraff 195

[19] Cofnod y Trafodion paragraff 199